Hafan

bridgend-temple

Dyddiad y Warant: Mawrth 1af 1983
Man Cyfarfod: Y Deml Saeryddol. Heol Llangrallo, Penybont-ar-Ogwr, CF31 2AP

Croeso cynnes i Gyfrinfa Dewi Sant, Rhif 9067

Mae Cyfrinfa Dewi Sant yn Gyfrinfa gyfeillgar iawn. Fe’i sefydlwyd gan Seiri Rhyddion sy’n caru pob peth Cymreig a’r iaith Gymraeg yn neilltuol.

Nôd y gyfrinfa yw rhoi cyfle i aelodau i arfer Saeryddiaeth yn yr iaith Gymraeg. Mae’r gyfrinfa wedi cael y fraint o dderbyn caniatâd gan UGLE ym mis Ebrill 2019 i gynnal seremonïau yn yr iaith Gymraeg. Hyd yn hyn, Dewi Sant 9067 yw’r unig gyfrinfa yng Nghyfansoddiad Lloegr sy’n gallu cynnal seremonïau yn Gymraeg. Fodd bynnag, mae goddefeb wedi’i rhoi i dair cyfrinfa gyfagos i ganiatâu iddynt wneud yn yr un modd. Cadarnhawyd y datblygiad hwn yn ein Cyfarfod Sefydlu Blynyddol ym mis Ebrill 2019.

Deuir â’n cyfarfodydd i ben gyda chinio ffurfiol (a gyfeirir ato fel yr “Ail Gwrdd”) ac fe’i cyfoethogir gyda’r wefr o ganu Cymraeg.

Mae croeso cynnes yn disgwyl unrhyw un a hoffai wybod mwy am yr hyn yr ydym yn ei wneud neu o bosibl, ymuno â ni.

Os hoffech chi gysylltu â ni am unrhyw reswm, a wnewch chi ddefnyddio’r ffurflen gysylltu ar y dudalen Cysylltwch â ni – buasem wrth ein bodd cael clywed oddi wrthych.