UGLE yn cyhoeddu llyfryn dwyieithog

Newyddion y Gyfrinfa: –

Braint ac anrhydedd yw cael Prif Feistr y Dalaith y GH Fd Gareth Jones, OBE fel aelod o’r Gyfrinfa. Yn yr un modd anrhydedd yw cael Prif Feistr Cynorthwyol y Dalaith, sef Stephen Charles Evan Harries yn aelod ac yn Feistr Blaenorol y Gyfrinfa. Mae’r Gyfrinfa yn elwa yn ogystal o gefnogaeth nifer o Swyddogion Prif Gyfrinfa Unedig Lloegr..

Sefydlwyd y Gyfrinfa ym 1983 ac mae’n cwrdd ar hyn o bryd yn Neuadd y Seiri Rhyddion, Pen-y-bont ar Ogwr.
Yr ydym yn cwrdd ar y trydydd dydd Gwener ym mis Hydref, mis Tachwedd, mis Rhagfyr, mis Mawrth (Noson Etholiad) a mis Ebrill (Sefydlu Blynyddol).

(Mae’r Gyfrinfa yn perfformio’r Tair Gradd yn Saesneg a seremonïau arddangos yn y Gymraeg.)

Yr ydym yn ymestyn croeso cynnes a brawdol i Frodyr ledled y DU sy’n aelodau o’n Cyfansoddiad i ymweld â Chyfrinfa Dewi Sant. Mewn gwirionedd, os oes rhan o’r ddefod y carai unrhyw Frawd sy’n siarad Cymraeg ei draddodi mewn unrhyw un o’n seremonïau Cymraeg, yna, mae croeso iddo gysylltu ag Ysgrifennydd y Gyfrinfa.

Mae’r aelodau hefyd yn barod i ymweld â Chyfrinfeydd a hoffai weld defod yn cael ei pherfformio yn y Gymraeg. Mae’r Gyfrinfa wedi gwneud y fath ymweliadau yn y gorffennol â Chhastell Nedd, Llanelli ac Aberaeron.

Mae gan y Gyfrinfa yn ogystal, nifer o Frodyr sydd wedi cyrraedd swyddogaethau uchel mewn nifer o ‘raddau atodol’ mewn Saeryddiaeth.

Bwa Brenhinol Sanctaidd

Mae cyswllt annileadwy yn bodoli rhwng y Gyfrinfa Grefft a’r Bwa Brenhinol Sanctaidd. Am fod gan y Gyfrinfa aelodaeth amrywiaethol sy’n hanu o’r Dalaith hon a Thaleithiau eraill, mae’r Gyfrinfa yn elwa o sbectrwm o Seiri a Swyddogion Prif Siapter Goruchaf y Bwa Brenhinol Sanctaidd. Anrhydedd arbennig i’r Brodyr yw bod ein PFD presennol, y GH Fd Gareth Jones OBE, yn dal swydd fawreddog Y Mwyaf Rhagorol y Trydydd Prif Bennaeth.

Gradd y Marc: –

Yn yr un modd, mae’r Gyfrinfa yn elwa o berthynas agos â Chyfrinfa Marc Dewi Sant Rhif: – 1914sy’n cwrdd, gweithredu a chyflawni ei busnes yn gyfan gwbl trwy gyfrwng y Gymraeg.

Anrhydedd i ni yw cael Prif Feistr Talaith y Marc, Y G.H. Fd Thomas Richard Eirian Jones – PI-OB, PRMBA fel Meistr Blaenorol ac aelod sefydlu. Mae’r Gyfrinfa hefyd yn elwa o gefnogaeth nifer o Swyddogion Prif Gyfrinfa Seiri Rhyddion Cyflawn y Marc.

 

Gyda chymorth aelodau Cyfrinfa Dewi Sant, mae UGLE wedi cyhoeddu fersiwn dwyieithog o lyfryn Saeryddiaeth Rydd – Beth mae’n ei olygu?

clawr-llyfrynLawrlwythwch pdf o lyfryn dwyieithog
Saeryddiaeth Rydd – Beth mae’n ei olygu?