Gwaith Elusennol

4charities

Mae gwerthoedd Saeryddiaeth yn seiliedig ar uniondeb, caredigrwydd, gonestrwydd a thegwch.  Addysgir Seiri Rhyddion i ymarfer elusen ac i ofalu, nid yn unig amdanynt eu hunain, ond hefyd y gymuned gyfan – trwy roddion elusennol, a thrwy ymdrechion gwirfoddol a gweithrediadau fel unigolion. O’i dyddiau cynharaf, mae Saeryddiaeth wedi bod yn ymwneud â gofal am yr amddifad, y cleifion a’r henoed. Mae’r gwaith hyn yn parhau heddiw. Yn ogystal, rhoddir symiau mawrion i elusennau cenedlaethol a lleol.

Ymarferir elusen Saeryddol ar bob lefel: mae Cyfrinfeydd unigol yn gwneud rhoddion a rhoi cymorth i’w cymunedau eu hunain ac mae pob Talaith yn rhoi symiau mawr o arian i achosion rhanbarthol. Mae Prif Gyfrinfa Talaith De Cymru yn gweinyddu llawer o gronfeydd elusennol; a rhai pwysicaf yw Cronfa Les Saeryddol (CLSDC) De Cymru (RhDDC)) a Chymdeithas Dai Cymdogion Da (CDCD).

Amcanion Cronfa Les Saeryddol De Cymru yw darparu cymorth i Seiri Rhyddion y Dalaith sydd mewn angen, ynghyd â’u gweddwon neu bartneriaid, eu plant ac unrhyw chwiorydd di-briod. Mae CLSDC hefyd yn derbyn ceisiadau am gymorth ariannol oddi wrth sefydliadau y tu allan i Saeryddiaeth. Os tybir eu bod yn deilwng i’w cynorthwyo a’u bod hefyd wedi’u cofrestru fel Elusen, maent yn derbyn grant blynyddol yn amodol ar gymeradwyaeth Llys Blynyddol y Llywodraethwyr. Mae CLSDC yn dibynnu’n drwm ar frodyr yn dod yn Rheolwyr am Oes ac ar roddion rheolaidd oddi wrth Gyfrinfeydd yn y Dalaith er mwyn ei galluogi i gyflawni ei gwaith elusennol.

Mae Cymdeithas Dai Cymdogion Da (RhDDC) yn gyfrifol am un o brif asedau’r Dalaith sef Llys Geoffrey Ashe yn y Bontfaen, Bro Morgannwg, sy’n darparu llety o safon uchel a chyfleusterau cysylltiedig ar gyfer Seiri Rhyddion oedrannus neu dibynyddion sydd, neu wedi bod, yn aelodau’r Cyfansoddiad Seisnig.  Mae Llys Geoffrey Ashe yn cynnwys 17 o fflatiau hunan-gynwysedig gyda chyfleusteurau ar y cyd a thiriogaeth a gynhelir yn rheolaidd.

Mae gan y Dalaith gartref preswyl ym Mhorthcawl. Rheolir Llys Albert Edward Tywysog Cymru gan y Sefydliad Les Saeryddol Brenhinol ac mae’n darparu gofal preswyl nyrsio a dementia ar gyfer Seiri Rhyddion oedrannus neu eu dibynyddion.

Ein Achosion Elusennol

Yn 2016, unwyd pedair Elusen Seiri Rhyddion.  Daeth y rhain i gael eu galw’n Sefydliad Elusennol Saeryddiaeth o dan adain UGLE.  Ariennir hyn gan Seiri Rhyddion a’u teuleoedd ac mae’n un o’r Elusennau rhoi grantiau mwyaf yn y wlad.

Yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf mae’r Cyfrinfa wedi ymdrechu i gefnogi Gwyl 2021.  Yn yr un modd, mae Cyfrinfa Dewi Sant wedi cymorth elusennau lleol.