Dod yn Saer Rhydd
Ydych chi’n meddwl am ddod yn Saer Rhydd?
Mae gan ein brawdoliaeth hanes i ryfeddu ato, sy’n dyddio yn ôl mwy na thair canrif. Mae’n un o’r brawdoliaethau seciwlar hynaf yn y byd, cymdeithas o ddynion sy’n ymwneud â gwerthoedd moesol ac ysbrydol. Mae wedi’i sylfaenu ar dair egwyddor fawr sef Cariad Brawdol, Cymorth a Gwirionedd, ac mae’n anelu at ddod â dynion o ewyllys da at ei gilydd, waeth bynnag eu cefndir na’u gwahaniaethau.
I ddod yn Saer Rhydd, bydd angen i chi fod yn ddyn 21ain oed neu fwy, yn berson ag iddo enw da ac yn credu mewn Bod Mawr. Mae amgylchiadau fodd bynnag lle y gall dyn dros 18 oed ddod yn Saer Rhydd, felly gofynnwch, da chi, os oes gennych chi ddiddordeb.
Os ydych chi’n byw yn Ne Cymru a bod gennych chi ddiddordeb mewn darganfod mwy am ddod yn Saer Rhydd, yn enwedig os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â Chyfrinfa Dewi Sant, Rhif 9067, da chi cysylltwch â ni am wybodaeth bellach.
Darganfyddwch fwy am Saeryddiaeth fan yma.
Saeryddiaeth Rydd – Beth mae’n ei olygu?
Lawrlwythwch pdf o lyfryn dwyieithog
Saeryddiaeth Rydd – Beth mae’n ei olygu?