Gweithgareddau Cymdeithasol
Yn ogystal â’r pryd bwyd a’r gwmnïaeth a fwynheir gan y Brodyr ar ddiwedd pob cyfarfod o’r Gyfrinfa, mae cyfleoedd eraill yn bodoli i gwrdd yn gymdeithasol.
Mae ymweld â chyfrinfeydd eraill yn digwydd yn rheolaidd ac yr ydym yn aml yn gwahodd ffrindiau ac aelodau o Gyfrinfeydd eraill i’n cyfarfodydd.
Pen llanw blwyddyn y Meistr yn ei swydd yw Noson Menywod, sy’n rhoi’r cyfle i bawb gyd-giniawa a dawnsio tan yr hwyr.
Mae digwyddiadau cymdeithasol eraill yn digwydd gydol y flwyddyn ac weithiau bydd y Menywod yn ymuno â ni adeg y pryd bwyd ar noson Cyfrinfa.
Mae llawer o godi arian yn digwydd ar gyfer Llys Albert Edward Tywysog Cymru ar ffurf Ffair Nadolig, Ffair Haf, Noson Rasys a chynulliadau cymdeithasol eraill.