Hanes

Dyhead brawd a oedd eisiau gwella ei Gymraeg symbylodd y syniad gwreiddiol o gael Cyfrinfa ddwyieithog, a fuasai’n gallu cynnal ei defodau yn Gymraeg neu Saesneg, Ffurfiwyd pwyllgor o frodyr o’r un feddylfryd ac ymhen dim, aethpwyd ati i wireddu’r nod hwn. Cyfieithwyd y ddefod Saesneg i’r Gymraeg a chyn bo hir roedd tîm arddangos wedi’u ffurfio a oedd yn gallu perfformio’r defodau yn Gymraeg.

Ym mis Hydref 1982, daeth Cyfrinfa Penybont, Rhif 6743 yn gyfrinfa nawdd ac felly ein mam Gyfrinfa. Felly, gwireddwyd Cyfrinfa Dewi Sant ac fe’i cysegrwyd ar Fawrth 1af 1983. Roedd 27 o aelodau sefydlu.

O 1983 tan 2006, cynhaliwyd y defodau, ym Maesteg. Teimlwyd fodd bynnag, am fod yr aelodau yn dod o ardaloedd gwasgaredig y buasai Penybont ar Ogwr yn lleoliad mwy cyfleus. Felly ers 2006 hyd y dydd heddiw, cartref Dewi Sant yw Teml Saeryddol Penybont-ar-Ogwr.

Gyda’r dyhead cyson o wella, adolygwyd a diwygiwyd y Ddefod Gymraeg yn 2007.  O ganlyniad, mae wedi’i chymeradwyo gan UGLE ac fe’i defnyddir ar gyfer seremoniau sydd i’w cynnal yn Gymraeg o fis Hydref 2019 ymlaen.

Yn 2012, aethpwyd ati i gynllunio a phrynu Baner a gysegrwyd gan Brif Feistr y Dalaith mewn seremoni drawiadol iawn.

Roedd y gwaith caled a wnaed gan y Sylfaenwyr wedi dwyn ffrwyth drwy uno’r Gyfrinfa dan ei baner ei hun.

Mae’r Gyfrinfa wedi bodoli ers 36 blwyddyn.  Mae’n ymledu cyfeillgarwch ac mae’n awyddus i annog unigolion o’r un anian i ymuno â rhengoedd y Gyfrinfa hon sy’n un unigryw yng Nghymru yn arbennig, a’r Cyfansoddiad yn gyffredinol.